Tynnu Sylw lyrics

by

The Joy Formidable


Mae ‘na rym
Sy’n dod a ni at ein gilydd nawr
Mae ‘na rym
Sydd ond yn ein tynnu ni lawr

Mae’r cyswllt wedi dal
Y gafael yn gyfartal
Anghofia hyn, anghofia’r holl
Ddyfaru gynt

Ai dyma’r wers i mi
Fy mhen yn llawn o hyd
A ‘mreichiau’n syrthio i lawr i’m ochr gwag
A welai’r lloer o bell
Ei law ar gael i’r gwell
Mae heno yn tynnu a’r awr

Pryd ddaw y glaw man yn ei ol
I dynnu sylw o’r hyn sy’n fy nghof
Pryd ddaw y glaw atai yn ol
I olchi’r dagrau yn ol tua’r mor

Allwn chwilio
On fe gollom yr harddwch yn y foment hon
Allwn chwilio
Ond mae’r gorwel anweledig dros y fron

Yn tynny sylw

Troi
Gweld mor bell
Mor bell mae’r teimlad
Wedi mynd ar gefn y llun
Diflannu yn y cynnwrf hyn
Llithro I ddiwedd y ffordd
Yn dryloyw yn y pwll where I see myself

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z #
Copyright © 2012 - 2021 BeeLyrics.Net