Ar Lan y Môr lyrics

by

Traditional Transcriptions


Ar lan y môr mae rhosys cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae 'nghariad inne
Yn cysgu'r nos a chodi'r bore

Ar lan y môr mae carreg wastad
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell gangen o rosmari

Ar lan y môr mae cerrig gleision
Ar lan y môr mae blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rinweddau
Ar lan y môr mae nghariad innau

Llawn yw'r môr o swnd a chegryn
Llawn yw'r wy o wyn a melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blode
Llawn o gariad merch wyf inne

Mor hardd yw'r haul yn codi'r bore
Mor hardd yw'r enfys aml ei liwie
Mor hardd yw natur ym Mehefin
Ond harddach fyth yw wyneb Elin
A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z #
Copyright © 2012 - 2021 BeeLyrics.Net