Calon Peiriant lyrics

by

Gwenno


[Pennill 1]
A yw’r corff yn dadfeilio?
A yw’r dechnoleg yn nwylo
Y rhai sy’n anghyfrifol?
Neu’r sawl sy’n rhesymegol?

[Corws]
Cer di i galon peiriant i ddysgu dinistr hanes

[Pennill 2]
Agos yw’r arwahanrwydd
Digyswllt yw’r digonolrwydd
Beth yw’r cyddwysydd cariad?
A phwy wnaiff gynnal ei gyflenwad?

[Corws]
Cer di i galon peiriant i ddysgu dinistr hanes
A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z #
Copyright © 2012 - 2021 BeeLyrics.Net